Y Llwynog

Cyflwyniad

Cerdd gan R Williams Parry yw 'Y Llwynog'. Mae yn y thema 'Natur a'r Amgylchedd' ac mae'n Canu Rhydd.

Mesur

Mae'r cerdd wedi'i hysgrifennu ar ffyrf Soned Shakespearaidd. Ceir 14 llinell, wedi'i wneud allan of 3 pedwarawd a chwpled clo. Mae'r llinellau yn y 3 pedwarawd yn yn odli pob yn ail, ac mae'r dau llinell yn y cwpled clo yn odli. Felly gallwn ddweud taw'r patrwm odli yw:
a, b, a, b, c, ch, c, ch, d, dd, d, dd, e, e
Gwelwn hefyd newid mewn cynnwys ar ôl y 9fed llinell o'r enw folta. Mae'r bardd yn newid o siarad am ymateb ef a'i ffrindiau i ymateb y Llwynog.

Y Gerdd

Ganllath o gopa'r mynydd, pan oedd clych
Eglwysi'r llethrau'n gwahodd tua'r llan,
Ac anrheuliedig haul Gorffennaf gwych
Yn gwahodd tua'r mynydd, - yn y fan,
Ar ddiarwybod droed a distaw duth,
Llwybreiddiodd ei ryfeddod prin o'n blaen
Ninnau heb ysgog ac heb ynom chwyth
Barlyswyd ennyd; megis trindod faen
Y safem, pan ar ganol diofal gam
Syfrdan y safodd yntau, ac uwchlaw
Ei untroed oediog dwy sefydlog fflam
Ei lygaid arnom.
Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd, darfu, megis seren wîb.
Gan R Williams Parry

Cynnwys

Neges

Neges y gerdd y fod digwyddiadau bywyd yn gallu digwydd yn cloi iawn ac fod e'n bwysig i fwynhau'r foment. Felly mae bywyd yn fregus.

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Personoliaeth "anrheuliedig haul Gorffenaf gwych" Mae'n creu darlyn o'r haul fel person yn edrych lawr ar y bardd a'i ffrindiau ac yn adio i afreality'r sefyllfa a'r digwyddiad.
Cyflythreniad "Ar ddiarwybod droed a distaw duth" Helpu i greu symuduiad llyfn i'r llinell sy'n rhoi pwyslais ar par mor cloi y wneath digwydd.
Trosiad "dwy sefydlog fflam, ei lygaid arnom" Dangos edmygedd R Williams Parry tuag at Llwynog ac hefyd creu'r argraff bod y digwyddiad yn gwhanol iawn i normal.
Cymharieth "Digwyddodd, darfu, megis seren wîb" Pwysleisio neges y gerdd gan ddangos pa mor cyflym y wnaeth digwydd.
Ynys Afallon

Cyflwyniad

Mae Ynys Afallon wedi'i hysfgrifenny gan Iwan Llwyd, ac mae yn y thema Natur a'r Amgylchedd. Mae'n Canu Rhydd.

Mesur

Ysrigenir Ynys Afallon mewn Mydr ac Odl ar ffyrf Telyneg. Ceir 4 pennill of 4 llinell a ceir patrwm odli o
a, b, c, b
pob pennill. Mae'r cyntaf a'r trydydd llinell ym mhob pennill yn ddiacen ac mae'r ail a'r pedwaredd yn accenog.

Y Gerdd

Uwchlaw y môr a'i donnau,
tu hwnt i lanw blêr
torfeydd a thagfeydd traffig,
yn werddon dan y sêr.

roedd ynys i greaduriaid
dorheulo a thwtio plu:
heno mae'i chwyion hithau'n
boddi'n y gweadlif du.

Mae'r storm yn cau amdanom,
'does dim amdani ond ffoi
a dilyn lli'r cerbydau
ar draffordd heb le i droi,

a chwilio am Ynys Afallon:
heno 'does dim lle bu
ond cerrynt y môr a thonnau
creulon y llanw du.
Gan Ian Llwyd

Cynnwys

Neges y Gerdd

Neges y gerdd yw fod dyn wedi dinistrio'r amgylchedd cymaint fel nad oes lle delfrydol fel Ynys Afallon i'w gael unrhyw fwy.

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Ansoddair "blêr" Mae'r gair yn gwrthdaro gyda'n darlun traddodiadol o'r môr ac yn dangos pa mor annaturiol yw'r olygfa.
Ailadrodd "du" Cloi'r ail penill a'r penill olaf. Mae'n symbol o holl naws y gerdd.
Trosiad "llanw blêr torfeydd a thagfeydd traffig" Dangos taw, yn ein byd heddiw, nid dŵr naturiol yw'r llanw ar yr arfordir, ond rhesi o geir.
Personoliaeth "gweadlif du" Cawn yr argraff bod y môr yn sâl ac ar ei wely angau.
Mae'r Coed yn Marw

Cyflwyniad

Rhydwen Williams wnaeth ysgrifennu'r gerdd 'Mae'r Coed yn Marw'. Natur a'r Amgylchedd yw'r thema. Mae'n Canu Rhydd.

Mesur

Ysgrifenna Rhydwen Williams y gerdd hon mewn Mudr ac Odl. Mae yna 4 pennill yn cynnwys o 4 llinell â'r patrwn oldi
a, b, c, b
Mae'r cyntaf a'r trydydd llinell ym mhob pennill yn ddiacen ac mae'r ail a'r pedwaredd yn accenog.

Y Gerdd

Mae'r coed yn marw ym Margam,
mae'r coed yn y Gilfach yn glaf;
mae'r coed drwy Gymru'n welw,
yn welw ar ganol haf.

Mae'r coed ledled daear yn wylo,
eu canghennau'n llusgo i'r llawr;
mae'r coed pendefigaidd yn pydru,
pinwydd, gwinwydd - daeth eu hawr!

Pan welwn y coed yn dihoeni
a'u brigau'n peri gofid a braw,
edrychwn tua'r nefoedd i weled
a oes argoel am gawod o law.

Fe ddisgynnodd y gawod heddiw,
y gawod i leddfu'r holl gur,
ond gwenwyn pob diferyn a gafwyd
a'r gawod iachusol yn sur.
Gan Rhydwen Williams

Cyflwyniad

Rhydwen Williams wnaeth ysgrifennu'r gerdd 'Mae'r Coed yn Marw'. Natur a'r Amgylchedd yw'r thema. Mae'n Canu Rhydd.

Mesur

Ysgrifenna Rhydwen Williams y gerdd hon mewn Mudr ac Odl. Mae yna 4 pennill yn cynnwys o 4 llinell â'r patrwn oldi
a, b, c, b
Mae'r cyntaf a'r trydydd llinell ym mhob pennill yn ddiacen ac mae'r ail a'r pedwaredd yn accenog.

Y Gerdd

Mae'r coed yn marw ym Margam,
mae'r coed yn y Gilfach yn glaf;
mae'r coed drwy Gymru'n welw,
yn welw ar ganol haf.

Mae'r coed ledled daear yn wylo,
eu canghennau'n llusgo i'r llawr;
mae'r coed pendefigaidd yn pydru,
pinwydd, gwinwydd - daeth eu hawr!

Pan welwn y coed yn dihoeni
a'u brigau'n peri gofid a braw,
edrychwn tua'r nefoedd i weled
a oes argoel am gawod o law.

Fe ddisgynnodd y gawod heddiw,
y gawod i leddfu'r holl gur,
ond gwenwyn pob diferyn a gafwyd
a'r gawod iachusol yn sur.
Gan Rhydwen Williams

Cynnwys

Neges y Gerdd

Mae'r bardd yn ceisio cyfleu y dinistriw rhydym ni fel pobl wedi achosi i natur gan llygru.

Cynnwys

Neges y Gerdd

Mae'r bardd yn ceisio cyfleu y dinistriw rhydym ni fel pobl wedi achosi i natur gan llygru.

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Ailadrodd "mae'r coed ... " Mae'r bardd yn ceisio hoelio ein sylw at ei neges.
Personoli "canghennau'n llusgo i'r llawr" Trwy rhoi nodweddion dynol i'r coed, mae'r bardd yn ceisio deffro mwy o gydymdeimlad ynddynt i'r coed.
Trosiad "coed pendefigaidd" Mae'r bardd yn awgrymu fod yna rhywbeth frenhinol i'r coed yma, ac yn dangos ein bradychiant trwy achosi'r dioddef hyn.
Gwrthgyferbyniad "a'r gawod iachusol yn sur" Pwysleisio'r ffaith fod yna dim sy'n helpu'r coed yma.

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Ailadrodd "mae'r coed ... " Mae'r bardd yn ceisio hoelio ein sylw at ei neges.
Personoli "canghennau'n llusgo i'r llawr" Trwy rhoi nodweddion dynol i'r coed, mae'r bardd yn ceisio deffro mwy o gydymdeimlad ynddynt i'r coed.
Trosiad "coed pendefigaidd" Mae'r bardd yn awgrymu fod yna rhywbeth frenhinol i'r coed yma, ac yn dangos ein bradychiant trwy achosi'r dioddef hyn.
Gwrthgyferbyniad "a'r gawod iachusol yn sur" Pwysleisio'r ffaith fod yna dim sy'n helpu'r coed yma.
Glas

Cyflwyniad

Mae 'Glas' yn y thema Ieuenctid a Bywyd Cyffroes, ac mae wedi cael ei hysgrifennu gan Bryan Martin Davies. Mae'n Canu Rhydd.

Mesur

Cai Glas ei hysgrifennu yn y mesur Penrhydd. Does dim rheuolau strwythur na patrymau oldi o gwbl i'r mesur hon, ac mae'n cŵl iawn. Weithiau, defnyddia'r bardd odl er mwyn creu effaith.

Y Gerdd

Pan oedd Sadyrnau'n las,
a môr yn Abertawe'n rhowlio chwerthin
ar y traeth,
roedd cychod a chestyll a chloc o flodau
yn llanw'r diwrnod;
a gyda lwc,
ymdeithiem yn y pensil coch o drên
a farciai hanner cylch ei drac
rownd rhimyn glas y bae
i bwynt y Mwmbwls.

Eisteddem ar y tywod twym
yn yfed y glesni,
ein llygaid newynog yn syllu'n awchus
ar fwrdd y môr,
Dilynem ddartiau gwyn y gwylain aflonydd
yn trywnu targed y crieigiau,
a sbiem yn syn
ar y llongau banana melyn o'r Gorllewin
a sglefriai'n ara dros y gwydr glas,
a gorffwys dan y craeniau tal
a grafai'r wybren glir
uwchben Glandŵr.

Rhain oedd Sadyrnau'r syndod,
y dyddiau glas,
a ninnau'n ffoaduriaid undydd, brwd,
yn blasu'n rhyddid byr
o ddyffryn du
                   totalitariaeth glo.
Gan Bryan Martin Davies

Cynnwys

Neges

Y neges mae Bryan Martin Davies yn ceisio cyfleu gyda'r gerdd hon yw mai'r cyfnodau byr mewn bywyd yw'r rhai sy'n arbennig, a dylent cofio.

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Personoliad "môr Abertawe'n rhowlio chwerthin" Adio i'r darlyn o hapusrwydd sy'n cael ei greu yn y gerdd.
Cyflytherniad "cychod a chestyll a chloc of flodau" Mae'r cytseiniau 'c' a 'ch' yn rhai meddal sy'n helpu i greu llif llyfn i'r darllen.
Trosiad "pensil coch o drên" Dangos ieuentid y bardd ar y tripiau hyn, a pa mor delfrydol ydyn nhw.
Gwrthgyferbyniad "dyddiau glas", "ddyffryn du" Dangos yn glir bod y dyddiau hyn ond yn dianc byr o bywyd dydd i ddydd. Hefyd may glas yma yn symbol o rhyddid a du yn symbol o gaethywed Brynaman.
Gail Fu Farw

Cyflwyniad

Ysgrifennwyd 'Gail Fu Farw' gan Nesta Wyn Jones. Mae'n canu rhydd ac mae yn y thema Ieuenctid a Bywyd Cyffroes.

Mesur

Mae'r gerdd â'r mesur Penrhydd. Does dim rheuolau strwythur na patrymau oldi o gwbl i'r mesur hon, ac mae'n cwl ofnadwy. Weithiau, defnyddia'r bardd odl er mwyn creu effaith.

Y Gerdd

Mor ddi-ystyr fu ei mynd, a'i dyfod.
Y ferch lwyd
Fu'n eitha niwsans i bawb
O'r dechrau.
Parselwyd o le-rhelings i le-tan-glo
Ar y dyddiad-a'r-dyddiad.
Cartref plant. Borstal. Carchar.
Syllodd ar fyd
Trwy fyd
Na faliai.

Ei llais, mor dawel.
'Hapus? Mae'n siŵr...
Yn blentyn...'
Llais na chredai ei eiriau ei hun.

Ffug-hapusrwydd heroin,
Ac yna'i harch
Yn diflannu i dywyllwch taclus, mesuredig,
I'w llosgi.
('Fe ddowch i'm hangladd?')
Llafargan gysurlon eglwyswr
Dieithr.
Ei ffrindiau
Od
Yn ysgwyd llaw.

Ac allan a hwy, i grio ar gornel y stryd
Drosti hi
A throstynt eu hunain.

Gollyngwyd hi'n rhydd,
Yn rhydd i ddewis marw.
Mor ddi-ystyr fu ei mynd, a'i dyfod.
Gan Nesta Wyn Jones

Cynnwys

Neges y Gerdd

Mae'r bardd yn beirniadu'r cymdeithas am beidio a edrych ar ôl pobl fel Gail.

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Ansoddair "llwyd" Dangos bod hi'n sâl, ond hefyd ei bod hi ddim yn ffitio mewn - dim yn du na gwyn.
Trosiad "Parselwyd" Cyflei'r naws fod neb yn ei poeni amdani, ond yn ei symud o le i le.
Ailadrodd "rhydd" Effeithiol oherwydd mae'n gwrthgyferbyni gyda'r gwirionedd, roedd hi ond yn "rhydd i ddewis marw".
Undod "Mor ddi-ystyr fu ei mynd, a'i dyfod" Dangos bod dim byd yn newid, ac yn gorffen a gerdd ar nôd anobeithiol.
Gwawr

Cyflwyniad

Mae 'Gwawr' yn y thema Ieuentic a Bywyd Cyffroes a chafodd ei hysgrifennu gan Meirion Hughes. Mae'n canu caeth.

Mesur

Mae'r cerdd yn Awdl. Prif fesur yr awdl yw cywydd, ond ceir un pennill sy'n englyn. Nid yw hon yn un cŵl.

Y Gerdd

(detholiad)
Pan fyddo’r môr yn trymhau,
a helynt yn gymylau,
rhyw ynys o wirioni
yw mainc ‘Yr Albert’ i mi;
yn nwfn nos fy hafan yw,
o’r brad, fy harbwr ydyw.

Y mae o hyd yma awr
o wanwyn yn heth Ionawr.
Hwn yw’r lle’r torchi llawes,
a’r tŷ haf lle nad yw’r tes
yn machlud - gwynfyd go iawn!
Arlwy, a’i bwrdd yn orlawn

Heno, a’r criw’n ymgynnull
i rannu gwefr yn y gwyll,
nid o’r grât y neidiai’r gwres,
nac o ynni du’r Guinness;
ond fflamau yw ffrindiau ffraeth
yn odli â’u cenhedlaeth.

Wrth i’r sôn gwirion ein gwau
yn domen o ystymiau,
aelwyd heb wg oedolyn,
Nirfana’n wir yw fan hyn;
ninnau yn gampau i gyd
yn Fehefin o fywyd.

O’r llwyfan yn taranu,
hyder llanc sy’n codi’r llu.
Yma’n ei hwyl yn mwynhau
yn gyhyrog ei eiriau,
llais ynghlwm â bwrlwm byw,
dyfodol ar dwf ydyw:
cennad iaith yn cynnau’i do,
a bardd sydd heb ei urddo

Ym mloedd wresog yr hogyn,
anhrefn yw’r drefn, ond er hyn
un sgrech dros ein gwlad fechan,
un iaith, un gobaith yw’r gân:
galwad i’r gad ym mhob gair,
heddiw ym mhob ansoddair.
Idiomau fel dyrnau dynn
a her ym mhob cyhyryn.

I nodau’r band â’r bywhau
yn wyneb i’n calonnau,
er hwyl ymrown i rowlio’n
breichiau fel melinau Môn,
yna dawns, fel ebol dall
yn dynwared un arall
Heno, er nad ŷm ninnau’n
hanner call am amser cau,
nid yr êl o’r poteli
yw nawdd ein doniolwch ni:
daw’n cyffur o fragdy’r fron:
alcoholaid hwyl calon!

O na allwn droi’r allwedd - neu gau bollt
            rhag y byd a’i bwylledd,
a chael o hyd yn wych wledd,
einioes o adfradlonedd!

Yma’n goelcerth o chwerthin,
a’n gwenau fel hafau’r hin,
mae eto waw, mae to iau
yn wlad o oleuadau,
a thrwy darth yr oriau du
ein heniaith sy’n tywynnu.

Yn aceri ein cariad
yn pori iaith ein parhad,
un nos oer sy’n fis o ha’,
a’i thorf yn boeth o eirfa:
yn Gymraeg mae’i morio hi,
yn Gymraeg y mae rhegi.
Gan Meirion Hughes

Cynnwys


Diolch i Sam Bevan

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Symbol "I nodau’r band...i’n calonnau" Mae Rhys Mwyn yn ymgnawdoliad o’r hyn mae’r ieuenctid yn y dafarn yn ei deimlo am Gymru. Mae’n symbol o Gymreictod ar ddiwedd yr wythdegau.
Trosiad "Rhyw ynys o wirioni...ydyw" Mae’n cyfleu man o ddiogelwch a noddfa rhag yr oerfel y tu allan.
Personoliad "Yn gyhyrog ei eiriau" Ceir ymgorfforiad o Rhys Mwyn ei hun yn y disgrifiad yma. Pan fyddai Rhys Mwyn yn canu, arferai wneud hynny heb ei grys neu mewn fest i ddangos ei chwys a’i gyhyrau a oedd yn amlwg yn dynn.
Cymhariaeth "fel ebol dall" Mae’r gymhariaeth yma’n ychwanegu hiwmor at y darlun ac yn cyfleu bwrlwm ac asbri’r bobl ifanc yn symud i’r gerddoriaeth.
Er Cof am Kelly

Cyflwyniad

Menna Elfyn wneath ysgrifennu'r cerdd 'Er Cof am Kelly'. Mae yn y thema Rhyfel a Thrais, ac mae'n canu rhydd.

Mesur

Cai Glas ei hysgrifennu yn y mesur Penrhydd. Does dim rheuolau strwythur na patrymau oldi o gwbl i'r mesur hon, ac mae'n cŵl ofnadwy. Weithiau, defnyddia'r bardd odl er mwyn creu effaith.

Y Gerdd

Geneth naw mlwydd oed
ar gymwynas daith, peint o laeth gwyn
i gymydog.
Trwy gyrrau'r ffenest
gwyliodd ei mam,
ei gweld yn cerdded
a chwympo;
bwled wedi'i bwrw
gwydr fel ei chnawd yn deirchion.

Panig wedi'r poen
'My God it's only a little girl',
meddai'r glas filwr.
Moesymgrymodd.
Meidrolodd,
Ei mwytho yn ei gledrau.

'Get your dirty hands off,'
medd cymydog mewn cynddaredd,
Y fam yn ymbil
am ei gymorth cyntaf
               - olaf.

Gwisgodd amdani ei ffrog benblwydd,
dodi losin yn ei harch,
y tedi budr a anwesodd
o'i chrud.
ac aeth ar elor
angau ei noson hwyraf allan.
Gan Menna Elfyn

Cynnwys

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Gwrthgyferbyniad "cerdded a chwympo" Dangos y gwahaniaeth rhwng yr amser cyn ac ar ôl iddi cael ei tharo.
Cyflythreniad "bwled wedi'i bwrw" Cytseinau caled yn pwysleisio ei bod hi wedi cael ei tharo. Effeithiol i adeiladu llyn o'r sefyllfa.
Cymhariaeth "Gwydr fel ei chnawd yn deirchion" Dangos bod ei chnawd yn wan fel gwydr. Eto yn helpu i adeiladu llyn o'r sefyllfa.
Defnydd o Seasneg "'Get your dirty hands off'" Helpu i ddangos realiti'r sefyllfa.
Englynion Coffa Hedd Wyn

Cyflwyniad

Ysgrifennwyd 'Englynion Coffa Hedd Wyn' gan R Williams Parry. Mae'n canu caeth ac mae yn y thema Rhyfel a Thrais.

Mesur

Mae'r gerdd hon wedi'i gyfansoddi o gyfres o englynion.

Y Gerdd

Un
Y bardd trwn dan bridd tramor, - y dwylaw
      Na ddidolir rhagor:
   Y llygaid dwys dan ddwys ddôr,
   Y llygaid na all agor.

Wedi ei fyw y mae dy fywyd, - dy rawd
      Wedi ei rhedeg hefyd
   Daeth awr i fynd i'th weryd,
   A daeth i ben deithio byd.

Tyner yw'r lleuad heno - tros fawnog
      Trawsfynydd yn dringo;
   Tithau'n drist a than dy ro
   Ger y ffos ddu'n gorffwyso.

Trawsfynydd!  Tros ei feini - trafaeliaist
      Ar foelydd Eryri;
   Troedio wnest ei rhedyn hi,
   Hunaist ymhell ohoni.
Dau
Ha frodyr!  Dan hyfrydwch - llawer lloer
      Y llanc nac anghofiwch
   Canys mwy trist na thristwch
   Fu rhoddi'r llesg fardd i'r llwch.

Garw a gwael fu gyrru o'i gell - un addfwyn,
      Ac o noddfa'i lyfrgell;
   Garw fu rhoi'i bridd i'r briddell,
   Mwyaf garw oedd marw ymhell.

Gadael gwaith a gadael gwŷdd, - gadael ffridd,
      Gadael ffrwd y mynydd;
   Gadael dôl a gadael dydd,
   A gadael gwyrddion goedydd.

Gadair unig ei drig draw! - Ei dwyfraich,
      Fel pe'n difrif wrandaw,
   Heddiw estyn yn ddistaw
   Mewn hedd hir am un ni ddaw.
Gan R Williams Parry

Cynnwys

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Gwrthgyferbyniad "Tyner yw'r lleuad... a tithau'n drist a than dy ro" Symboleiddio'r golau'r lleuad, a fu'n ysbiradoliaeth iddo, a tywyllwch y bedd, sydd iddo nawr.
Ansoddeiriau "dwys" "trist" Pwysleisio tristwch y sefyllfa
Ailadrodd "gadael" Rhoi pwyslais ar y ffaith nad yw'r bardd yn dod yn ôl at y pethau mae'n caru.
Undod Sôn am breichiau: "y dwylaw na diddolir rhagor", "Ei ddwyfraich fel pe’n difrif wrandaw..." Dangos pwysigrwydd breichiau i'r bardd, am ysgrifennu, ac bod e byth yn mynd i'w ddefnyddio nhw eto.
Y Coed

Cyflwyniad

Cerdd o'r thema Rhyfel a Thrais yw 'Y Coed'. Ysgrifennwyd gan Gwenallt, ac mae'n canu rhydd.

Mesur

Mae gan y gerdd hon fesur Penrhydd. Does dim rheuolau strwythur na patrymau oldi i'r mesur hon, ond mae Gwenallt yn defnyddio patrwm syml trwy rhan fwyaf o'r gerdd, sef dau llinell i bob penill a'r ddwy yn odli.

Y Gerdd

Chwe miliwn o goed yng Nghaersalem, fe'u plannwyd hwy
Yn goeden am bob corff a losgwyd yn y ffyrnau nwy.

Coed sydd yn estyn eu gwreiddiau i ganol lludw pob ffwrn,
Y lludw sydd wedi mynd ar goll, heb fynwent na bedd nac
wrn.

Chwithig oedd gweled y cangau fel cofgolofnau byw,
Ac nid marmor na gwenithfaen, na hyd yn oed yr angladdol
yw.

Ni chlywem ni na chlychau'r Eglwys na mŵesin y Mosg,
Ond clywed rhwng eu cangau hwy y marwnadau llosg.

Nid yw'r dwylo a'u plannodd yn ddieuog, na'u cydwybod yn lân,
Canys diddymodd yr Israeliaid bentrefi'r Arabiaid â'u tân.

Pam na ddylai'r Arabiaid, hwythau, godi yn Cairo ac Amman
Fforestydd o goed i gofio yr anghyfiawnder a'r cam?

Ond ni allwn ni gondemnio'r Natsïaid na'r Iddewon
ychwaith
Canys fe droesom o'r awyr Dresden yn un uffern faith;

A gollwng y ddau fom niwclear ar y ddwy dre yn Japan.

O'r holl ganrifoedd a gerddodd ar y ddaear er cychwyn y byd,
Yr ugeinfed yw'r fwyaf barbaraidd ohonyny hwy i gyd.

Fe fydd y nesaf yn waeth am fod y bomiau a'r rhocedi yn fwy,
A dyfeisir mewn labordai dirgel sawl math o nwy.

A phan ddaw'r trydydd Rhyfel i gadw ei dychrynllyd oed,
Ni ellir rhifo'r lladdedigion llosg, na rhifo ychwaith y coed.

Chwe miliwn o goed yng Nghaersalem, chwe miliwn, a thair
croes,
Ac ar y ganol yr Unig Un a fu'n byw'r Efengyl yn Ei oes.

Daw'r tymhorau i newid eu lliwiau, gwyrdd, melyn a gwyn.
Ond coedwig y marwolaethau'n aros a fyddant hwy, er hyn.

Pan fyddant ymhen blynyddoedd wedi tyfu i'w llawn maint,
Fe wêl y genhedlaeth honno nad oeddem ni yn llawer o saint.
Gan Gwenallt

Cynnwys

Neges y Gerdd

Gwna'r bardd pwynt clir o ddangos, tra bod e'n rhwydd i ni rhoi'r bai ar y Natsiiaid am ladd cymaint o bobl, nid ydym ni mor dda ac y rhydynt yn hoffi i gredu.

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Berfau Amhersonol "fe'u plannwyd hwy"
"a losgwyd"
Dangos ein bod ni ddim yn edrych arnynt fel pobl unigol, ond yn meddwl am y chwe miliwn â'u gilydd.
Negyddol "Nid yw'r dwylo ... yn ddieuog"
"Pan na ddylai'r Arabiaid"
Condemio dynoliaeth yn ddi-flwyn ar dafod yn y gerdd.
Eironi "colofnau byw" Mae'r gair byw yn eironi gan fod y coed yn cynrychioli Iddewon marw.
Symbolaeth "chwe miliwn, a thair croes" Defnyddio symbol Cristnogaeth. Cafodd Crist ei groeshoelio a fe oedd y dyn mwyaf perffaith.
Tai Unnos

Cyflwyniad

Cafodd y gerdd 'Tai Unnos' ei hysgrifennu gan Iwan Llwyd. Mae yn y thema Pigo Cydwybod. Canu Rhydd ydyw.

Mesur

Ceir mesur Mydr ac Odl i'r gerdd hon. Mae wedi'i cyfansoddi o 8 rhigwm, sydd a cwpled o linellau iddynt. Mae pob cwpled yn odli.

Y Gerdd

Sbwriel oes yr ia oedd y cerrig llyfnion
orweddai'n flêr hyd lannau'r afon:

sbarion a shafins cŷn a morthwyl y rhewlif
a siapiodd pob dyffryn ganrif wrth ganrif:

ac â'r sbwriel cododd ein cyndeidiau'n ddyfal
fwthyn clud yn nhro'r afon, ar seiliau petryal

gosod carreg ar garreg rhwng gwyll a gwawr
a chynnau tân cyn i'r landlord dynnu'r cyfan i lawr;

hawlio darn o dir a'i godi'n aelwyd
drwy nerth bôn braich troi llafur yn freuddwyd:

ar lannau traffyrdd y dinasoedd llwydion,
ac yng nghesail concrid swyddfeydd gweigion,

dan bontydd ffyrdd osgoi, mewn meysydd parcio mae rhai
yn eu dyblau heno hefyd wrthi'n codi tai,

rhoi trefn ar sbwriel dan y sêr,
hawlio darn o dir â bocsys cardbord blêr.
Gan Ian Llwyd

Cynnwys

Neges y Gerdd

Mae Iwan yn ceisio hoelio ein sylw bod pobl dal mewn yr un sefylla ac yr oedd pobl 400 mlynedd yn ôl.

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Cyflythrennu "sbwriel", "sbarion", "shafins", "siapoedd" Mae'r ailadrodd o'r cytsain "s" yn ein atgoffa o rhywun yn poeri.
Trosiad "morthwyl y rhwlif" Gwelwn y rhewlif fel gweithiwr yn torri trwy'r dyffryn.
Personoliad "yng nghesail concrid swyddfeydd gweigion" Mae hyn yn eirionig oherwydd mae'n awgrymu lle esmwyth a cysurus, sy'n gwrthdaro gyda'r reality oer.
Ailadrodd "sbwriel" Pwysleisio pa mor tebyb yw bywyd bobl digatref heddwl a'r Cymry a wnaeth adeiladi'r tai unnos 400 mlynedd yn ôl, oherwydd mae'r ddwy tai wedi'u gwneud o sbwriel.
Wedi'r Ŵyl

Cyflwyniad

Cerdd o'r thema Pigo Cydwybod wedi'i hysgrifennu gan Ceri Wyn Jones yw 'Wedi'r Ŵyl', ac mae'n canu caeth.

Mesur

Ysgrifennod Ceri Wyn Jones y gerdd hon yn y mesur Cywydd â 12 llinell o 6 cwpled mewn cynghanedd gyflawn. Mae pob cwpled yn oldi fel bod patrwm odli o
a, a, b, b, c, c, ch, ch, d, d, dd, dd

Y Gerdd

Heno fe rown fel llynedd
ŵyl y byw yn ôl i'w bedd,
gan gloi doli'r babi bach
i gadw mewn hen gadach,
ac i'r atig rhoi eto
ddisgleirdeb ei wyneb o
ar y llawr yng ngwely'r llwch,
yn ddoli o eiddilwch.
Yno 'nghrud ei alltudiaeth
mae'n rhith o gorff, mae'n wyrth gaeth,
ac ogof ein hangof ni
ni wêl heno'i oleuni.
Gan Ceri Wyn Jones

Cyflwyniad

Cerdd o'r thema Pigo Cydwybod wedi'i hysgrifennu gan Ceri Wyn Jones yw 'Wedi'r Ŵyl', ac mae'n canu caeth.

Mesur

Ysgrifennod Ceri Wyn Jones y gerdd hon yn y mesur Cywydd â 12 llinell o 6 cwpled mewn cynghanedd gyflawn. Mae pob cwpled yn oldi fel bod patrwm odli o
a, a, b, b, c, c, ch, ch, d, d, dd, dd

Y Gerdd

Heno fe rown fel llynedd
ŵyl y byw yn ôl i'w bedd,
gan gloi doli'r babi bach
i gadw mewn hen gadach,
ac i'r atig rhoi eto
ddisgleirdeb ei wyneb o
ar y llawr yng ngwely'r llwch,
yn ddoli o eiddilwch.
Yno 'nghrud ei alltudiaeth
mae'n rhith o gorff, mae'n wyrth gaeth,
ac ogof ein hangof ni
ni wêl heno'i oleuni.
Gan Ceri Wyn Jones

Cynnwys

Neges y Gerdd

Ceisia'r bardd pigo'n cydwybod ein bod ni'n anghofio gwir ystyr y Nadolig ac ond yn ei ddathlu am 'gael sbri mewn ŵyl'.

Cynnwys

Neges y Gerdd

Ceisia'r bardd pigo'n cydwybod ein bod ni'n anghofio gwir ystyr y Nadolig ac ond yn ei ddathlu am 'gael sbri mewn ŵyl'.

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Gwrthgyferbyniad "ŵyl y byw yn ôl i'w bedd" Mae'r gwrthgyferbyniad hyn yn heolio ein sylw ar sut rydym ni'n anwybyddi'r Nadolig ac mae'n pwysleisio neges y gerdd.
Cyflythrennu "gan gloi doli'r babi bach / i gadw mewn hen gadach" Y defnydd o'r cytsain caled 'g' yn dangos dicter y bardd.
Trosiad yng "nghrud ei alltudiaeth" Y Gair "alltudiaeth" yn pwysleisio eto neges y gerdd.
Symbolau Christnogol "hen gadach", "ddisgleirdeb ei wyneb" Yn ein atgoffa ni beth yw gwir ystyr a Nadolig, ac yn dangos y gwrthgyferbyniad rhwyngddo a beth rydym ni'n ei ddathlu am.

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Gwrthgyferbyniad "ŵyl y byw yn ôl i'w bedd" Mae'r gwrthgyferbyniad hyn yn heolio ein sylw ar sut rydym ni'n anwybyddi'r Nadolig ac mae'n pwysleisio neges y gerdd.
Cyflythrennu "gan gloi doli'r babi bach / i gadw mewn hen gadach" Y defnydd o'r cytsain caled 'g' yn dangos dicter y bardd.
Trosiad yng "nghrud ei alltudiaeth" Y Gair "alltudiaeth" yn pwysleisio eto neges y gerdd.
Symbolau Christnogol "hen gadach", "ddisgleirdeb ei wyneb" Yn ein atgoffa ni beth yw gwir ystyr a Nadolig, ac yn dangos y gwrthgyferbyniad rhwyngddo a beth rydym ni'n ei ddathlu am.
Y Ffatri'n Cau

Cyflwyniad

O'r thema Pigo Cydwybod yw'r cerdd 'Y Ffactri'n Cau', ac mae wedi'i hysgrifennu gan Gwyn Thomas. Mae'n Canu Rhydd.

Mesur

Cai Glas ei hysgrifennu yn y mesur Penrhydd. Does dim rheuolau strwythur na patrymau oldi o gwbl i'r mesur hon, ac mae'n cŵl ofnadwy. Weithiau, defnyddia'r bardd odl er mwyn creu effaith.

Y Gerdd

Y ffatri'n cau, ac yntau'n hanner cant,
A theimlad o ddifodiant yn dod, fel parddu'n
disgyn,
Yn dwllwch am ei galon.
A'r dyfodol yn rhoi clep yn ei wyneb.

Dyfodol a dôl mewn ardal dlawd:
Y mab yn penderfynu mynd i'r fyddin;
Y ferch yn chwilio am rywbeth yn Birmingham,
Lle mae ganddo yntau chwaer.

Tai ar werth, siopau'n cau
Ac yn mynd rhwng y cŵn a'r brain a'r llafnau yna
Nad oes ganddyn nhw bleser mewn dim
Ond mewn hel tafarnau a dinsitrio a malu.
Ffenesti'r capel, hyd yn oed, wedi eu pledu
A rhywrai wedi bod yno'n peintio, ar y waliau,
PUNKS RULE O.K. a rhegfeydd.

Ac ar y teledydd bob dydd -
Rhwng breuddwydion tjioclet -
Lluniau o ladd, plant bach yn llwgu,
Pobol filain yn sgyrnygu.

A hen deimlad yn crynhoi ynddo yntau,
Fel pry cop yn symud ar ei war,
Fod y sioe y gyd yn mynd yn racs.
Gan Gwyn Thomas

Cyflwyniad

O'r thema Pigo Cydwybod yw'r cerdd 'Y Ffactri'n Cau', ac mae wedi'i hysgrifennu gan Gwyn Thomas. Mae'n Canu Rhydd.

Mesur

Cai Glas ei hysgrifennu yn y mesur Penrhydd. Does dim rheuolau strwythur na patrymau oldi o gwbl i'r mesur hon, ac mae'n cŵl ofnadwy. Weithiau, defnyddia'r bardd odl er mwyn creu effaith.

Y Gerdd

Y ffatri'n cau, ac yntau'n hanner cant,
A theimlad o ddifodiant yn dod, fel parddu'n
disgyn,
Yn dwllwch am ei galon.
A'r dyfodol yn rhoi clep yn ei wyneb.

Dyfodol a dôl mewn ardal dlawd:
Y mab yn penderfynu mynd i'r fyddin;
Y ferch yn chwilio am rywbeth yn Birmingham,
Lle mae ganddo yntau chwaer.

Tai ar werth, siopau'n cau
Ac yn mynd rhwng y cŵn a'r brain a'r llafnau yna
Nad oes ganddyn nhw bleser mewn dim
Ond mewn hel tafarnau a dinsitrio a malu.
Ffenesti'r capel, hyd yn oed, wedi eu pledu
A rhywrai wedi bod yno'n peintio, ar y waliau,
PUNKS RULE O.K. a rhegfeydd.

Ac ar y teledydd bob dydd -
Rhwng breuddwydion tjioclet -
Lluniau o ladd, plant bach yn llwgu,
Pobol filain yn sgyrnygu.

A hen deimlad yn crynhoi ynddo yntau,
Fel pry cop yn symud ar ei war,
Fod y sioe y gyd yn mynd yn racs.
Gan Gwyn Thomas

Cynnwys

Neges y Gerdd

Mae'r bardd yn ceisio dangos sut mae rhywbeth fel cau ffactri yn dinistrio cymuned gyfan.

Cynnwys

Neges y Gerdd

Mae'r bardd yn ceisio dangos sut mae rhywbeth fel cau ffactri yn dinistrio cymuned gyfan.

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Cymhariaeth "fel parddu'n disgyn" Cyfleu'r tywyllwch a'r anobaith sy'n cael ei greu gan diweithdra.
Personoliad "A'r dyfodol yn rhoi clep yn ei wyneb" Creu darlun clir o beth sy'n digwydd iddo. Mae'r hiwmor (*pfft*) yn ond yn adio i'r teimlad o anobaith.
Cyflythreniad "Dyfodol a dôl mewn ardal dlawd" Mae'r cystain caled 'd' yn cario'r syniad o'r dyfodol yn "rhoi clep" yn bellach.
Trosiad "y sioe i gyd yn mynd yn racs" Cyflei dinistriw y sefyllfa. Mae cloi gyda'r gair "racs" yn pwysleisio neges y gerdd.

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Cymhariaeth "fel parddu'n disgyn" Cyfleu'r tywyllwch a'r anobaith sy'n cael ei greu gan diweithdra.
Personoliad "A'r dyfodol yn rhoi clep yn ei wyneb" Creu darlun clir o beth sy'n digwydd iddo. Mae'r hiwmor (*pfft*) yn ond yn adio i'r teimlad o anobaith.
Cyflythreniad "Dyfodol a dôl mewn ardal dlawd" Mae'r cystain caled 'd' yn cario'r syniad o'r dyfodol yn "rhoi clep" yn bellach.
Trosiad "y sioe i gyd yn mynd yn racs" Cyflei dinistriw y sefyllfa. Mae cloi gyda'r gair "racs" yn pwysleisio neges y gerdd.
Colli Iaith

Cyflwyniad

Harri Webb wnaeth ysgrifennu 'Colli Iaeth'. Mae o dan yn thema Cymru a Chymreictod, ac mae'n Canu Rhydd.

Mesur

Ysgrifennir y gerdd hon hefo'r mesur Mydr ac Odl. Ceir 5 pennill o 4 llinell gyda pob llinell yn oldi fel hyn:
a, a, a, a
Mae'r tri llinell gyntaf mewn pennill gyda 8 sillaf, ond mae'r pedwerydd yn amrwyio. Ceir hefyd 2 curiad i bob llinell.

Y Gerdd

Colli iaith a cholli urddas,
Colli awen, colli barddas;
Colli coron aur cymdeithas
Ac yn eu lle cael bratiaith fas.

Colli'r hen alawon persain,
Colli tannau'r delyn gywrain;
Colli'r corau'n diasbedain
Ac yn eu lle cael clebar brain.

Colli crefydd, colli enaid,
Colli ffydd yr hen wroniaid;
Colli popeth glân a thelaid
Ac yn eu lle cael baw a llaid.

Colli tir a cholli tyddyn,
Colli Elan a Thryweryn;
Colli Claerwen a Llanwddyn
A'r wlad i gyd dan ddŵr llyn.

Cael yn ôl o borth marwolaeth
Gân a ffydd a bri yr heniaith;
Cael yn ôl yr hen dreftadaeth
A Chymru'n dechrau ar ei hymdaith.
Gan Harri Webb

Cynnwys

Neges

Ceisia'r bardd creu ynddym teimlad o dristwch dros colli ei Cymreictod, ond hefyd mae'n dangos bod yna dal gobaith i'w gael.

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Cyflythreniad "Colli tir a cholli tyddyn" Cyplysu y dau air, sy'n gwneud y llinell yn fwy gofiadwy.
Trosiad "Cael yn ôl o borth marwolaeth" Arwyddocaol i bwysleisio pa mor agos ydyn ni fel gwlad at golli popeth.
Personoliad "A Chymru'n dechrau ar ei hymdaith" Creu darlun o Gymru yn cerdded yn penderfyniadol tuag at y dyfodol, sy'n creu naws o obaith i'r llinell olaf
Ailadrodd "colli" Bwysig iawn i pwysleisio'r neges a solidio'r syniad ohonno ni yn colli popeth.
11.12.82

Cyflwyniad

Ysgrifennodd Iwan Llwyd y gerdd '11.12.82'. Mae'n Canu Rhydd ac mae yn y thema Cymru a Chymreictod.

Mesur

Mae'r cerdd yn gyda'r mesur Penrhydd, ond ceir bach o batrwm iddo. Mae wedi creu allan o 4 pennill gyda 3 llinell, a 1 pennill â 4 llinell. Does dim patrwm odli ac mae'r llinellau yn amrywio mewn maint, ond mae pob tro atalnod cryf ar ôl y trydydd llinell yn y 4 pennill cyntaf.

Y Gerdd

Daeth saith canrif ynghyd
yn oerfel Cilmeri,
ar dail yn diferu atgofion:

saith canrif o sôn
am orchestion hen oesau,
a'r dydd yn gymylau gwelwon:

saith canrif o sefyll
ar erchwyn y dibyn,
a'n traed bron fferru'n eu hunfan:

saith canrif o gyfrif
colledion yn dawel
ac edrych i'r gorwel yn ddistaw:

aeth saith canrif yn ddistaw
ger carreg Cilmeri,
a'r awel ar rewi llif Irfon...

... yna bloeddiodd y baban
a thoddi'r gaeafddydd,
a'r awel ar rewi llif Irfon...
a chwalu'r distawrwydd a her canrif newydd yn nychryn ei waedd.
Gan Ian Llwyd

Cynnwys

Neges y Gerdd

Ceisia'r bardd rhoi sylw ar y ffordd bod Cymru wedi dioddef ers marwolaeth Llewelyn ond hefyd dangos bod yna gobaith yn y dyfodol.

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Trosiad "dail yn diferu atgofion" Mae'r dŵr yn symbol o amser yn mynd heibio.
Ansoddair "distaw" Pwysleisio tawelwch y myfyrdod a distawrwydd y genedl ddifater.
Berf "bloeddiodd" Arwyddocaol i ddangos pwysigrwydd faint mae angen i'r Cymry eu gwneud er mwyn rhwystro colli'u cenedlaeth.
Ailadrodd "saith canrif" Pwysleisio y nifer o flynyddoedd a aeth heibio a pa mor hir mae Cymru wedi dioddef.
Hon

Cyflwyniad

Cerdd gan T H Parry Williams o dan y thema Cymru a Chymreictod y 'Hon', mae'n Canu Rhydd.

Mesur

Mae'r gerdd Hon mewn Mydr ac Odl ar ffyrf Rhigwm. Mae wedi cyfansoddi o 11 pennill gyda 2 llinell mewn pennill. Mae pob cwpled yn oldi fel bod patrwn oldi o:
a, a, b, b, c, c, ch, ch, d, d, dd, dd, e, e, f, f, ff, ff, g, g, ng, ng

Y Gerdd

Beth yw'r ots gennyf i am Gymru? Damwain a hap
Yw fy mod yn ei libart yn byw. Nid yw hon ar fap

Yn ddim byd ond cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn,
Ac yn dipyn o boendod i'r rhai sy'n credu mewn trefn.

A phwy sy'n trigo'n y fangre, dwedwch i mi.
Dim ond gwehilion o boblach? Peidiwch, da chwi

 chlegar am uned a chenedl a gwlad o hyd;
Mae digon o'r rhain, heb Gymru, i'w cael yn y byd.

Rwyf wedi alaru ers talm ar glywed grŵn
Y Cymry bondigrybwyll, yn cadw swn.

Mi af am dro, i osgoi eu lleferydd a’i llên,
Yn ôl i’m cynefin gynt, a’m dychymyg yn drên.

A dyma fi yno. Diolch am fod ar goll
Ymhell o gyffro geiriau'r eithafwyr oll.

Dyma'r Wyddfa a'i chriw; dyma lymder a moelni'r tir;
Dyma'r llyn a'r afon a'r clogwyn; ac, ar fy ngwir,

Dacw'r tŷ lle'm ganed. Ond wele, rhwng llawr a ne'
Mae lleisiau a drychiolaeth ar hyd y lle.

Rwy'n dechrau simsanu braidd; ac meddaf i chwi,
Mae rhyw ysictod fel petai'n dod drosof i;

Ac mi glywaf grafangau Cymru'n dirdynnu fy mron.
Duw a'm gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.
Gan T H Parry Williams

Cynnwys

Neges y Gerdd Hon

Ceisia'r bardd cyfleu'r ffaith taw, er mai ond "cilcyn o ddaear" yw Cymru, does dim anghofio amdano.

Arddull

Techneg Dyfyniad Effaith
Cwestiwn Rhethregol "Beth yw'r ots gennyf i am Gymru?" Agoriad effeithiol i'r gerdd gan cyfleu ar unwaith agwedd y bardd tuag at Cymru.
Cyflthyrenniad "lleferydd a’i llên" Ychwanegu at sŵn y llinell a naws y gerdd.
Personoli "Dyma'r Wyddfa a'i chriw" Dangos pa mor personol yw'r gwlad i'r bardd. Gwrthgyferbynnu gyad agwedd caled y bardd yn y rhan cyntaf.
Trosiad "crafangau Cymru" Cyfelu'r syniad o afael yn dynn ac o gaethiwed.