Adolygu Cymraeg Llenyddiaeth - Gwawr

Cyflwyniad

Mae 'Gwawr' yn y thema Ieuentic a Bywyd Cyffroes a chafodd ei hysgrifennu gan Meirion Hughes. Mae'n canu caeth.

Mesur

Mae'r cerdd yn Awdl. Prif fesur yr awdl yw cywydd, ond ceir un pennill sy'n englyn. Nid yw hon yn un cŵl.

Y Gerdd

(detholiad)
Pan fyddo’r môr yn trymhau,
a helynt yn gymylau,
rhyw ynys o wirioni
yw mainc ‘Yr Albert’ i mi;
yn nwfn nos fy hafan yw,
o’r brad, fy harbwr ydyw.

Y mae o hyd yma awr
o wanwyn yn heth Ionawr.
Hwn yw’r lle’r torchi llawes,
a’r tŷ haf lle nad yw’r tes
yn machlud - gwynfyd go iawn!
Arlwy, a’i bwrdd yn orlawn

Heno, a’r criw’n ymgynnull
i rannu gwefr yn y gwyll,
nid o’r grât y neidiai’r gwres,
nac o ynni du’r Guinness;
ond fflamau yw ffrindiau ffraeth
yn odli â’u cenhedlaeth.

Wrth i’r sôn gwirion ein gwau
yn domen o ystymiau,
aelwyd heb wg oedolyn,
Nirfana’n wir yw fan hyn;
ninnau yn gampau i gyd
yn Fehefin o fywyd.

O’r llwyfan yn taranu,
hyder llanc sy’n codi’r llu.
Yma’n ei hwyl yn mwynhau
yn gyhyrog ei eiriau,
llais ynghlwm â bwrlwm byw,
dyfodol ar dwf ydyw:
cennad iaith yn cynnau’i do,
a bardd sydd heb ei urddo

Ym mloedd wresog yr hogyn,
anhrefn yw’r drefn, ond er hyn
un sgrech dros ein gwlad fechan,
un iaith, un gobaith yw’r gân:
galwad i’r gad ym mhob gair,
heddiw ym mhob ansoddair.
Idiomau fel dyrnau dynn
a her ym mhob cyhyryn.

I nodau’r band â’r bywhau
yn wyneb i’n calonnau,
er hwyl ymrown i rowlio’n
breichiau fel melinau Môn,
yna dawns, fel ebol dall
yn dynwared un arall
Heno, er nad ŷm ninnau’n
hanner call am amser cau,
nid yr êl o’r poteli
yw nawdd ein doniolwch ni:
daw’n cyffur o fragdy’r fron:
alcoholaid hwyl calon!

O na allwn droi’r allwedd - neu gau bollt
            rhag y byd a’i bwylledd,
a chael o hyd yn wych wledd,
einioes o adfradlonedd!

Yma’n goelcerth o chwerthin,
a’n gwenau fel hafau’r hin,
mae eto waw, mae to iau
yn wlad o oleuadau,
a thrwy darth yr oriau du
ein heniaith sy’n tywynnu.

Yn aceri ein cariad
yn pori iaith ein parhad,
un nos oer sy’n fis o ha’,
a’i thorf yn boeth o eirfa:
yn Gymraeg mae’i morio hi,
yn Gymraeg y mae rhegi.
Gan Meirion Hughes