Adolygu Cymraeg Llenyddiaeth - Hon

Cyflwyniad

Cerdd gan T H Parry Williams o dan y thema Cymru a Chymreictod y 'Hon', mae'n Canu Rhydd.

Mesur

Mae'r gerdd Hon mewn Mydr ac Odl ar ffyrf Rhigwm. Mae wedi cyfansoddi o 11 pennill gyda 2 llinell mewn pennill. Mae pob cwpled yn oldi fel bod patrwn oldi o:
a, a, b, b, c, c, ch, ch, d, d, dd, dd, e, e, f, f, ff, ff, g, g, ng, ng

Y Gerdd

Beth yw'r ots gennyf i am Gymru? Damwain a hap
Yw fy mod yn ei libart yn byw. Nid yw hon ar fap

Yn ddim byd ond cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn,
Ac yn dipyn o boendod i'r rhai sy'n credu mewn trefn.

A phwy sy'n trigo'n y fangre, dwedwch i mi.
Dim ond gwehilion o boblach? Peidiwch, da chwi

 chlegar am uned a chenedl a gwlad o hyd;
Mae digon o'r rhain, heb Gymru, i'w cael yn y byd.

Rwyf wedi alaru ers talm ar glywed grŵn
Y Cymry bondigrybwyll, yn cadw swn.

Mi af am dro, i osgoi eu lleferydd a’i llên,
Yn ôl i’m cynefin gynt, a’m dychymyg yn drên.

A dyma fi yno. Diolch am fod ar goll
Ymhell o gyffro geiriau'r eithafwyr oll.

Dyma'r Wyddfa a'i chriw; dyma lymder a moelni'r tir;
Dyma'r llyn a'r afon a'r clogwyn; ac, ar fy ngwir,

Dacw'r tŷ lle'm ganed. Ond wele, rhwng llawr a ne'
Mae lleisiau a drychiolaeth ar hyd y lle.

Rwy'n dechrau simsanu braidd; ac meddaf i chwi,
Mae rhyw ysictod fel petai'n dod drosof i;

Ac mi glywaf grafangau Cymru'n dirdynnu fy mron.
Duw a'm gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.
Gan T H Parry Williams